Create avatar

FOR PARENTS - WELSH

Gwybodaeth i rieni am The Buzz

The Buzz yw gwefan gyffrous y NDCS a grëwyd yn arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc fyddar rhwng 8 a 18 oed. Mae dau safle – un i blant (8 i 11 oed) ac un i bobl yn eu harddegau (12 i 18 oed).

 

Mae The Buzz yn rhoi eu lle diogel a chadarnhaol eu hunain i blant a phobl ifanc fyddar. A wnewch chi annog eich plentyn i gofrestru a chymryd rhan. Os ydych chi’n gyw arlunydd, cerddor, neu rywun â thalent gudd, hoffem glywed gennych a rhoi stori nodwedd amdanyn nhw ar y wefan. Cysylltwch â ni drwy’r botwm Oes Cwestiwn?

 

Pam gwnaethon ni greu’r wefan hon?

Gyda’ch help chi, gofynnodd NDCS i bron 1,500 o blant a phobl ifanc fyddar am y gwasanaethau yr hoffen nhw eu cael gan y NDCS. Roedd 90 y cant o bobl ifanc fyddar a gafodd eu holi eisiau cael gwefan sy’n benodol i bobl ifanc fyddar.

 

Bydd sydd ar y wefan?

Mae The Buzz yn rhoi cyfle i bobl ifanc fyddar wneud ffrindiau newydd, i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i sgwrsio a thrafod y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Caiff y safle ei fonitro’n agos ac mae gennym ni bolisi diogelwch clir i helpu plant a phobl ifanc fyddar gadw yn ddiogel pan fyddan nhw’n defnyddio’r wefan.

 

Mae Topigau Cŵl yn cyflwyno pobl ifanc sydd wedi gwneud pethau anhygoel, gan hyrwyddo ein neges bod pobl ifanc fyddar yn gallu llwyddo mewn beth bynnag a wnân nhw. Hefyd yn Topigau Cŵl ceir pytiau hwyl llawn gwybodaeth, fel newyddion, adolygiadau a chyngor ar bynciau fel mynd i'r coleg a llwyddo mewn bywyd.

Mae’r adran Digwyddiadau yn rhestru llawer o ddigwyddiadau cyffrous a redir y NDCS a gweithgareddau i blant a phobl ifanc fyddar ledled y wlad a thrwy gydol y flwyddyn. Pwrpas ein holl ddigwyddiadau - sy’n cynnwys gweithgareddau chwaraeon, gweithdai celf, gwersylloedd, gwyliau a chyrsiau datblygiad personol - yw helpu plant a phobl ifanc fyddar i gwrdd â phlant a phobl ifanc eraill a dod yn ffrindiau, i roi sgiliau bywyd iddyn nhw ac i godi eu hunan-barch.

 

Mae croeso i unrhyw gwestiynau neu adborth am y wefan drwy'r e-bost at buzz@ndcs.org.uk

 

 


Copyright © 2013 NDCS - all other trademarks are acknowledged as belonging to their respective owners. All rights reserved.
Registered Charity: England and Wales (1016532) and Scotland (SC040779)
Site by 4T2

  WebEncript - This site is verified as secure daily by encription limited